Llanddysgwyr
Walking in Welsh
02 June 2026
02 June 2026
Llanddysgwyr – Cerdded gyda’r Gymraeg
(English version beneath)
Cymuned Gristnogol o ddysgwyr Cymraeg yng ngogledd ddwyrain Cymru yw Llanddysgwyr sy’n un o Leoedd Newydd i Bobl Newydd y Methodistiaid. Cymuned fechan ac ar wasgar yw hon sy’n tyfu o ran niferoedd ac o ran ffydd.
Mi ddechreuodd y grŵp pan gafodd y trefnydd, Lisa Rathbone, a’i gŵr, Phil, eu lleoli yn ôl yng Nghymru. Dysgodd Lisa Gymraeg yn yr ysgol ac mi benderfynodd Phil y byddai ef yn dysgu’r iaith hefyd.
“Mi fues i’n gweddïo ac mi siaradais i gyda Chadeirydd y Dalaith ar y pryd, y Parchg Ddr Stephen Wigley, ac mi wnaethom ni benderfynu y gallai hyn fod yn ddechreuad menter Lle Newydd i Bobl Newydd,” meddai Lisa.
Nid ar gyfer rhai sy’n siarad Cymraeg yn rhugl y mae Llanddysgwyr, ond ar gyfer rhai sy’n dysgu Cymraeg ac mae’r pwyslais ar Gymraeg llafar. Mae’r grŵp yn un reit fychan gyda 18 yn mynychu yn rheolaidd. Digwyddiadau cymdeithasol yw’r rhain, grŵp cerdded a chaiff gwasanaethau eu cynnal yn achlysurol ar-lein ac mewn capeli Methodistaidd lleol gydag emynau Cymraeg, darlleniad o’r Beibl Cymraeg a gweddi’r Arglwydd yn Gymraeg.
Ychwanegiad diweddar i Llanddysgwyr yw’r grŵp cerdded a siarad, ‘Grŵp Cerdded a Sgwrsio Llanddysgwyr’ lle mae aelodau yn cyfarfod i fwynhau mynd am dro ym myd natur ac ymarfer eu Cymraeg llafar gyda phinsiad o ffydd yn ychwaneg. “Mae’r sgwrs yn gallu trafod unrhyw beth sy’n ei gwneud yn addas iawn ar gyfer pobl sydd ar yr ymylon neu’r tu allan i’r eglwys ar y foment. Mi fyddwn ni’n cael sgyrsiau da iawn, mi fyddwn ni’n cydadrodd y fendith ar ddiwedd y tro ac mi rydym ni i gyd wedi dod yn ffrindiau da.”
“Mae pobl yn magu hyder ac yn ymgysylltu o’r newydd gyda’u ffydd Gristnogol wrth i ni ymchwilio i fyw fel Cristnogion yng Nghymru drwy gyfrwng ein mamiaith,” meddai Lisa.
Un esiampl gyffrous o’r hyn sydd wedi digwydd yw bedydd aelod o’r grŵp, Siân, yn ddiweddar. Meddai hi, “Dros y blynyddoedd, mae Duw wedi meithrin teulu o’r eglwys o’m cwmpas i’n raddol, yn enwedig drwy gysylltiadau â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, yn cynnwys grwpiau fel Llanddysgwyr. Cefais fy medyddio ym mis Tachwedd y llynedd, a drefnwyd gan King’s Christian Centre ac Eglwys Fedyddiedig Ebenezer yn yr Wyddgrug. Daeth Lisa i’m cefnogi i. Mi gefais i gardiau a llyfrau, yn cynnwys Beibl newydd, sy’n ffitio yn fy mag llaw! Roedd hwnnw’n amser arbennig iawn. Mae Duw yn parhau i’m rhoi i mewn cysylltiad â rhagor o ffrindiau sy’n Gristnogion, yn arbennig mewn cymunedau sy’n siarad ac yn dysgu Cymraeg.’

Gwnaeth Lisa sylw, “Wrth i chi ddechrau astudio ac ystyried y Beibl mewn iaith wahanol i’ch iaith gyntaf chi, rwy’n credu bod hynny’n dyfnhau ac yn cadarnhau eich ffydd chi’n fawr iawn, wir.”
Llanddysgwyr – Walking in Welsh
Llanddysgwyr is a Christian community of Welsh language learners in northeast Wales and one of the Methodist New Places for New People. It is a small and dispersed community that is growing in both numbers and faith.
The group started when the organiser, Lisa Rathbone, and her husband, Phil, were stationed back to Wales. Lisa had learned Welsh in school and Phil decided he too would learn the language.
“I prayed and I spoke to the then District Chair, the Revd Dr Stephen Wigley, and we decided that this could be the start of a New Place for New People initiative,” says Lisa
Llanddysgwyr isn’t for fluent Welsh speakers, it's for Welsh learners and the emphasis is on conversational Welsh. The group is quite small with 18 regular attendees. There are social events, a walking group and services are held online and occasionally in local Methodist chapels with Welsh hymns, a Welsh Bible reading and the Lord's prayer in Welsh.
A recent addition to Llanddysgwyr is the walking and talking group ‘Grwp Cerdded a Sgwrsio Llanddysgwyr’ where members meet to enjoy a walk in nature and practise their spoken Welsh with an extra pinch of faith. “The conversation can go anywhere making it very suitable for people who are on the fringe or outside the church at the moment. We have some good conversations, we say the grace together at the end of the walk and we have all become good friends.”
“People are growing in confidence and re-engaging with their Christian faith as we explore living as Christians in Wales through our mother tongue.” says Lisa.
An exciting example of this has been the recent baptism of group member Sian. She says, “Over the years, God has steadily grown a church family around me, especially through connections with Welsh speakers and learners, including groups such as Llanddysgwyr. Last November I was baptised, organised by King’s Christian Centre and Ebenezer Baptist Church in Mold. Lisa came to support me. I was given cards and books, including a new Bible, which fits in my handbag! It was a very special time. God continues to connect me with more Christian friends, particularly within the Welsh speaking and learning communities.’
Lisa commented, “I believe that when you start studying and looking at the Bible in another language to your first, it really deepens and strengthens your faith.”