Home

Wales Synod Cymru is coming into being at a time when the Welsh language is growing and developing in terms of education, adult learners and community activities. In 2019-20, there was a 32% increase in Welsh learners compared with 2018-19, and according to the ONS annual population survey in 2020, 29% of the population of Wales could speak Welsh. There is great enthusiasm for learning the language among all age groups and the Senedd has a policy to create a million Welsh speakers by 2050. This project is the Synod's intial missional response to this exciting situation, drawing on many collective years of experience within Wales in general and seeking to reach out to a growing Welsh learner community in NE Wales.

The project will take the form of a part-time diaconal appointment, drawing in Welsh speakers and learners from local churches to assist and support as appropriate. It will seek to build bridges and develop relationships with learners in schools, classes, community groups etc, offering a currently marginalised group of people the opportunity to hear and experience the gospel in a way that's appropriate for them. Indeed, while the Welsh-speaking community of Wales remains a minority, we consider this to be a project directly related to Methodism's Church at the Margins work.  

Alongside pre-existing pioneering and missional endeavours in this field which include the former bilingual circuit of Ceredigion, the joint Synods' bilingual youth work known as 'Momentwm' and Deacon Jon Miller's bilingual work in SW Wales with 'Yr Eglwys heb furiau/The Church without walls’, the team has a wealth of long-term experience as Welsh learners within the life of the church and wider community which bears out our starting assumptions. There is a growing sense of conviction that the way in which the vision for the project is becoming a reality with the right person in the right place at the right time is an affirmation. We have learnt that new conversations and new missional opportunities become possible in new settings such as Wales Synod Cymru.

Stephen Wigley (Chair, Wales Synod) can testify to the experience of his reason for learning the language as a Methodist minister being of great interest to other Welsh learners, which has opened up opportunities for conversations about faith.

Jennie Hurd (Chair, Synod Cymru) can testify to the way in which learning a new language broadens personal perceptions and the way in which ideas, concepts and convictions are received and interpreted. This has a direct bearing on Welsh learners hearing the gospel differently to how they might receive it in their first language.

Welsh translation

Synod Cymru Wales – Llanddysgwyr

Daw Synod Cymru Wales i fodolaeth ar adeg o gynnydd a datblygiad o ran addysg Gymraeg a nifer y rhai sy’n dysgu Cymraeg fel oedolion, pan welir twf hefyd mewn gweithgareddau drwy gyfrwng yr iaith yn ein cymunedau. Yn 2019-20 bu cynnydd o 32% yn nifer y rhai oedd yn dysgu Cymraeg o’i gymharu â 2018-19, ac yn ôl arolwg blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r boblogaeth yn 2020, roedd 29% o bobl Cymru yn gallu siarad Cymraeg. Mae brwdfrydedd mawr dros ddysgu’r iaith ymhlith pobl o bob oed a pholisi’r Senedd yw creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn y prosiect uchod fe welir ymateb cenhadol cychwynnol y Synod i’r sefyllfa gyffrous hon. Rydym yn adeiladu ar sail ein holl brofiad ni oll ledled Cymru dros y blynyddoedd ac yn ceisio ymestyn allan at y nifer cynyddol o bobl sy’n dysgu Cymraeg yn y Gogledd-ddwyrain.

I gyflawni’r prosiect fe benodir Diacon rhan-amser, gyda chymorth a chefnogaeth Cymry Cymraeg a dysgwyr o eglwysi lleol yn ôl yr angen. Fe geisir adeiladu pontydd a datblygu perthynas â dysgwyr mewn ysgolion, dosbarthiadau, grwpiau cymunedol ac yn y blaen, gan gynnig cyfle i bobl sydd ar hyn o bryd ar y cyrion i glywed a phrofi’r Efengyl mewn ffordd sy’n gweddu iddynt hwy. Gan mai lleiafrif sydd ar hyn o bryd yn siarad Cymraeg yng Nghymru, rydym yn ystyried bod y prosiect yn perthyn yn bendant i waith Eglwys ar y Cyrion o fewn yr Eglwys Fethodistaidd.

Mae ymdrechion arloesol a chenhadol eraill eisoes ar waith yn y maes hwn, gan gynnwys cylchdaith ddwyieithog flaenorol Ceredigion, gwaith ieuenctid dwyieithog y Synodau sef 'Momentwm' a gwaith dwyieithog y Diacon Jon Miller yn 'Yr Eglwys heb furiau’ yn y De-orllewin. Gan hynny, gall y tîm dynnu ar beth wmbredd o brofiad sydd yn mynd yn ôl blynyddoedd, fel rhai sy’n dysgu Cymraeg o fewn yr eglwys a’r gymuned ehangach, ac mae hyn yn ategu ein rhagdybiaethau cychwynnol. Teimlwn yn fwy a mwy argyhoeddedig bod y ffordd y mae’r weledigaeth ar gyfer y prosiect yn troi’n realiti, gyda’r person iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn, yn cadarnhau ein bod yn gywir. Rydym wedi dysgu bod sgyrsiau newydd a chyfleoedd cenhadol newydd yn dod yn bosibl mewn cyd-destunau newydd fel Synod Cymru Wales.

Mae Stephen Wigley (Cadeirydd, Wales Synod) yn medru tystio o brofiad, fod y rheswm pam y mae ef yn dysgu’r iaith fel gweinidog Methodistaidd o ddiddordeb mawr i ddysgwyr eraill, a hynny’n arwain at gyfleoedd i gael sgwrs ynglŷn â ffydd.

Mae Jennie Hurd (Cadeirydd, Synod Cymru) yn medru tystio i’r modd y mae dysgu iaith newydd yn ehangu amgyffred yr unigolyn a’r modd y bydd yn derbyn a dehongli syniadau, cysyniadau ac argyhoeddiadau. Mae hyn yn uniongyrchol berthnasol i’r ffordd y mae’r rhai sy’n dysgu Cymraeg yn clywed yr Efengyl mewn modd gwahanol i sut y byddent efallai yn ei derbyn yn eu hiaith gyntaf.